Traffig ar y ffordd i faes yr Eisteddfod ym Moduan
Mae rhai teithwyr i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd wedi wynebu oedi o hyd at awr mewn ciwiau traffig i gyrraedd y maes ddydd Sul.
Gyda'r maes ei hun ym Moduan, mae holl draffig yr Eisteddfod o'r gogledd a'r dwyrain yn cael ei gyfeirio tuag at bentre'r Ffôr ac yna ar hyd y B4354 a'r A497.
Ond fe ddywedodd rhai teithwyr ddydd Sul ei bod hi wedi cymryd dros awr iddyn nhw deithio rhwng Y Ffôr a maes y Brifwyl - sy'n daith o chwe milltir.
Mae'r Eisteddfod wedi cael cais i wneud sylw.