Dod o hyd i gorff dyn aeth ar goll yn 2012 yn Nyffryn Conwy

  • Cyhoeddwyd
Anthony LewisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Anthony Lewis mewn coetir ger pentref Dolgarrog

Mae corff dyn a aeth ar goll dros 10 mlynedd yn ôl wedi'i ganfod mewn coetir yn Nyffryn Conwy.

Aeth Anthony Lewis, 64, o Whitby, Ellesmere Port, ar goll ar 5 Gorffennaf 2012, a chafwyd hyd i'w gar ger Trefriw, Sir Conwy wythnos yn ddiweddarach.

Clywodd cwest yn Rhuthun fod aelod o'r cyhoedd wedi dod o hyd i weddillion Mr Lewis mewn coetir ger pentref Dolgarrog fis diwethaf, ar 25 Medi.

Mewn archwiliad post-mortem gan batholegydd y Swyddfa Gartref, rhoddwyd achos dros dro y farwolaeth fel asffycsia oherwydd anadlu heliwm.

Yn dilyn y gwrandawiad byr ddydd Llun, cafodd y cwest ei ohirio tan ddyddiad sydd eto i'w bennu.

Straeon perthnasol