Cymru v Ariannin: 'Tipyn o gyffro yn tŷ ni'
Wrth i Ariannin wynebu Cymru yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd, bydd Ann-Marie Lewis a'r plant yn gweiddi dros Gymru.
Ond er iddo fyw yng Nghymru ers blynyddoedd mae ei gŵr, Fabio, yn wreiddiol o Batagonia ac felly'n parhau i obeithio am y gorau i'w famwlad.
"Fydd na dipyn o gyffro yn tŷ ni, felly sydd wastad pan mae'r ddwy wlad yn cyfarfod," medd Ann-Marie ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.
"Er bod rhan ohonom yn perthyn i'r Ariannin bydd y tri ohonom, fi, Ifan a Miriam, byddwn ni yn gweiddi dros Gymru yn sicr, does dim amheuaeth am hynny!
"Mae'n bach o hwyl, ni'n dwlu ar yr Ariannin ond yn joio'r tynnu coes a'r sbort."