
Mae arweinydd cyngor yn y gogledd wedi rhybuddio mai ei brif flaenoriaeth yw osgoi mynd yn fethdalwyr, wrth i'r esgid wasgu'n ariannol.
Mewn llythyr at gynghorwyr, rhybuddiodd arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Jason McLellan fod y cyngor yn wynebu diffyg o £20-26m ar gyfer 2024/25.
Mae Sir Ddinbych yn disgwyl cynnydd o 3% yn unig yn eu cyllid blynyddol nesaf gan Lywodraeth Cymru.
Rhybuddiodd yr arweinydd y byddai'n golygu bod darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd - gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, casglu gwastraff ac ysgolion - yn costio £26m yn ychwanegol oherwydd cynnydd mewn prisiau, chwyddiant, a phwysau ar alw.
Gyda £5.6m (3%) yn unig o gynnydd mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru, mae'n gadael bwlch cyllido o £20.4m.
Roedd hyd yn oed awgrym y byddai swyddi'n cael eu colli, gyda'r arweinydd yn gofyn i gynghorwyr drin gwybodaeth yn y dyfodol yn gyfrinachol gan y byddai'n achosi ansicrwydd i staff y cyngor - ond mae colli swyddi wedi cael eu disgrifio, ers hynny, fel rhai anochel.
"Oherwydd maint y problemau sy'n ein hwynebu, ni allwn ddilyn proses debyg i'r hyn a ddilynwyd mewn blynyddoedd blaenorol, pan roedd yn rhaid i'r arbedion fod yn llawer llai, hyd yn oed yn y cyfnod o gyni."
'Sefyllfa ddifrifol'
Mae'r cyngor wedi cadarnhau y bydd nawr yn edrych ar gynyddu treth y cyngor a thorri gwasanaethau, mewn ymgais i gadw eu pennau uwchben y dŵr.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, arweinydd yr wrthblaid, fod y llythyr yn peri pryder i gymunedau a staff yn y sir, gan galw am gyfarfod brys o'r cyngor.
"Yr e-bost a dderbyniodd yr holl gynghorwyr yr wythnos diwethaf yw'r peth cyntaf i ni glywed amdano."
Ychwanegodd: "Pan welwch chi e-bost sy'n sôn am fethdalu, rydych chi'n poeni am staff; mae'n mynd i fod yn bryder i breswylwyr; mae'n mynd i fod yn bryder i gynghorwyr; Mae'n mynd i fod yn bryder i bawb.
"Mae'r gair methdaliad yn sefyllfa ddifrifol, a dyna pam mae angen cyfarfod i drafod difrifoldeb y sefyllfa."
Roedd y Cynghorydd Brian Jones hefyd yn teimlo'n gryf: "Fe gefais i fy ail-ethol ym mis Chwefror eleni…
"Dim ond 3% yn unig oedd codiad treth cyngor Sir Ddinbych, un o'r isaf yng Nghymru. Fe ges i'r argraff bod cyllid y cyngor mewn trefn."
Ychwanegodd: "Bydd llawer o bobl yn poeni. Bydd pobl sy'n gweithio i'r cyngor yn poeni am ddiogelwch swyddi, a bydd y cyhoedd yn poeni am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd i wasanaethau."
'Sefyllfa ariannol bresennol yn hynod heriol'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych eu bod, fel awdurdodau lleol ledled Cymru, yn wynebu pwysau parhaus oherwydd costau cynyddol a'r galw am wasanaethau.
"Rhaid i'r cyngor ddod o hyd i arian ychwanegol drwy gynilion ac effeithlonrwydd, taliadau am wasanaethau, cynnydd yn y dreth gyngor, neu drwy leihau neu gwtogi gwasanaethau."
Dywedodd yr arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan, sydd hefyd yn aelod cabinet dros dwf economaidd a thaclo amddifadedd: "Rydym eisoes wedi bod yn edrych ar bob elfen o'r cyngor i nodi arbedion posib. Mae'r sefyllfa ariannol bresennol yn hynod heriol, ac o ganlyniad, mae'r angen am arbedion sylweddol yn y gyllideb yn ddigynsail."
Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol: "Mae Sir Ddinbych eisiau osgoi cyrraedd sefyllfa lle mae comisiynwyr allanol yn cael eu hanfon i mewn gan y llywodraeth i leihau gwariant heb fawr ddim cyfeiriad at yr aelodau etholedig neu'r cymunedau lleol, os o gwbl.
"Dyma realiti'r hyn a allai ddigwydd pe baem yn methu â chydbwyso'r llyfrau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022

- Cyhoeddwyd18 Hydref 2015

- Cyhoeddwyd15 Hydref 2022
