Nicky John: 'Cefnogaeth y byd pêl-droed wedi'n helpu'
Fe dderbyniodd ferch Nicky John ddiagnosis o ganser ar yr arennau ym Mawrth 2022, a hithau ond yn flwydd oed.
Ond wedi derbyn cemotherapi, dywedodd Nicky fod Emi yn gwneud yn "grêt", er ei bod yn parhau i gael ei monitro gan feddygon.
Bydd gêm bêl-droed arbennig yn cael ei chynnal ddydd Sul i godi arian at Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl i ddiolch iddynt am ei thriniaeth.
"Ar hyn o bryd mae hi'n gwneud yn grêt ac yn rhedeg rings rownd ni yma," meddai Nicky.
"Mae hi wedi gorffen ei thriniaeth cemotherapi ers diwedd Mawrth felly 'da ni mewn sefyllfa ar hyn o bryd lle 'da ni'n mynd bob tri mis i gael scans yn Alder Hey ac mae'r nesaf ym mis Rhagfyr.
"Ond mae hi'n gwneud yn grêt."