
Brwydr Passchendaele, Gorffennaf i Dachwedd 1917
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gwasanaethodd tua 280,000 o ddynion Cymru yn y lluoedd arfog gyda 40,000 ohonynt yn colli eu bywydau. Er nad yn ymladd ar faes y gad bu cyfraniad merched Cymru mewn ysbytai, ffatrïoedd, yn y caeau ac ar yr aelwyd yn un clodwiw hefyd.
I nodi Sul y Cofio, yr hanesydd Elin Tomos sy'n bwrw golwg ar brofiadau amrywiol brodyr a chwiorydd o Gymru yn ystod y Rhyfel Mawr.

Does dim gwadu'r ffaith mai teuluoedd mawrion oes Fictoria a wnaeth y Rhyfel Mawr yn bosib ac un o'r teuluoedd mawrion hynny oedd teulu Hannah ac Edward Roberts, Ceunant Isaf, Nantperis. Allan o'r 11 o blant a anwyd, bu farw dau yn ystod eu plentyndod, gan adael naw: Robert (Bob), John, Thomas (Tommy), Josiah (Jos), Mary, Eliza, Idwal, Owen a Margaret.
Erbyn diwedd 1914, roedd pedwar o frodyr Ceunant wedi ymuno â'r Lluoedd Arfog: Robert, John, Thomas a Josiah. Wedi derbyn peth hyfforddiant, anfonwyd Thomas i Ffrainc tra'r aeth Robert, John a Josiah i'r Dardanelles.
Y Dardanelles
Roedd y Dardanelles - llain gul o ddŵr 61 cilomedr o hyd sy'n gwahanu cyfandiroedd Ewrop ac Asia - wedi bod o bwysigrwydd gwleidyddol ers canrifoedd a phan gaewyd y culfor yn niwedd mis Hydref 1914 llusgwyd yr Ymerodraeth Otoman i'r rhyfel ar ochr yr Almaen.
Ar 24 Awst 1915 derbyniodd Hannah Roberts, Ceunant, 'hysbysrwydd o'r Swyddfa Ryfel, fod Bob ei mab wedi ei glwyfo yn beryglus yn y Dardanelles' a'i fod mewn ysbyty yn Yr Aifft.

Carreg fedd ac erthygl papur newydd i goffau John Edward Roberts, Nantperis, laddwyd yn y Dardanelles
Ymhen pythefnos roedd un arall o'r brodyr yn glaf mewn ysbyty; erbyn dechrau Medi 1915 roedd Josiah wedi'i glwyfo ac wedi cael ei anfon gartref.
Defod gyffredin ym mhapurau newydd Cymru yn ystod y Rhyfel Mawr oedd yr arfer o argraffu llythyrau gan filwyr. Ym mis Medi 1915, argraffwyd llythyr John Roberts at ei rieni yn Yr Herald Cymraeg.
Ynddo, gofynnai am "tipyn o cigarettes, hefyd buaswn yn leicio cael ychydig o rywbeth i'w fwyta, ond wn i ddim beth wna gadw i ddod yma - rhyw damed o fara brith neu fiscuits?" Cyn gorffen yn ingol trwy rannu ei obeithion ar gyfer y dyfodol:
"Wel terfynaf yn awr gan obeithio eich bod i gyd yn iach a hapus, a bydd y rhyfel yma drosodd yn fuan i ni gael dod adref erbyn Nadolig fan bellaf."
Lladdwyd John Roberts ar 23 Tachwedd 1915. Roedd John yn 24 mlwydd oed. Trwy ryw wyrth fe oroesodd Josiah, Tommy a Bob i weld diwedd y rhyfel.
Colli mwy nag un mab
Doedd hi ddim yn anghyffredin i deulu golli mwy nag un o feibion. Pan laddwyd Evan Owen, Penybwlch, Penrhyndeudraeth ar fwrdd H.M.S Brisk ar 2 Hydref 1917 roedd dau o'i frodyr eisoes wedi cael eu lladd.
Ar 3 Gorffennaf 1917 daeth 'brysneges o'r Swyddfa Rhyfel' yn datgan bod y brawd ieuengaf, Daniel, wedi marw o'i glwyfau. Pythefnos ynghynt lladdwyd Samuel Owen pan saethwyd ef yn ei fol yn ardal Ypres.
Mae'n debyg mai'r chwiorydd sydd fwyaf adnabyddus am eu cyfraniad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ydy'r chwiorydd Davies o Landinam. Fel wyresau i David Davies - un o brif arloeswyr y diwydiant glo yng nghwm Rhondda - roedd Margaret a'i chwaer iau Gwendoline wedi profi magwraeth freintiedig.

Gwendoline a Margaret Davies, Gregynog
Ar ddechrau'r rhyfel bu'r chwiorydd yn gwneud gwaith elusennol yng Nghymru ond roedd y ddwy yn awyddus i wasanaethu dramor. Penderfynodd y chwiorydd wirfoddoli gyda'r Groes Goch Ffrengig yn Llundain. Ym mis Gorffennaf 1916 anfonwyd Gwendoline i wersyll tramwy ger Troyes yn Ffrainc. Ymunodd Margaret ym Mehefin 1917 lle bu'n cynorthwyo mewn ffreutur ar gyfer milwyr.
Ymuno â'r Groes Goch
Nid merched o gefndir cefnog oedd yr unig rhai a fu'n gwasanaethu dramor yn ystod y rhyfel. Ym mis Rhagfyr 1914 fe ymunodd Mary a Maggie Roberts, fferm Bwlch Mwrchan, Nant Gwynant â'r Groes Goch i ofalu am filwyr yn Ffrainc. Deufis ynghynt roedd eu brawd hynaf - Rhys - wedi ymuno ag 17eg Fataliwn Catrawd y Brenin, Lerpwl. Roedd Rhys wedi bod yn byw yn Bootle ar gyrion y ddinas ers sawl blwyddyn.

Y Caplan Martin Linton Smith - wnaeth sgwennu at Edith Mary wedi i'w gŵr, Rhys Roberts, gael ei ladd - yn agor ysbyty yn Tonbridge yn 1934
Ar 14 Ionawr 1916 lladdwyd Rhys Roberts trwy ddamwain. Yn ôl manylion llythyr at ei weddw ifanc Edith Mary gan y Caplan M. Linton Smith fe gafodd Rhys 'ei ladd trwy ffrwydrad damweiniol bomb fel yr oedd yn cael ei pharatoi i'w gollwng at y gelyn.' Roedd Rhys yn 24 mlwydd oed ac yn briod ag Edith ers llai na chwe mis.
Ar ddechrau'r rhyfel roedd cyfraniad merched fel Mary a Maggie Roberts wedi'i gyfyngu i waith dyngarol yn unig. Fodd bynnag, yn dilyn ymchwiliad gan Y Swyddfa Ryfel yn 1916 fe ddaeth i'r amlwg bod nifer o ddyletswyddau megis coginio, glanhau neu waith gweinyddol yn cael eu cyflawni gan filwyr.

Edith a Gladys Townsend
Er mwyn rhyddhau mwy o filwyr i wasanaethu yn y rheng flaen, ffurfiwyd Corfflu Atodol Byddin y Merched (WAAC) ym 1917. Yn fuan wedi'i ffurfio ymunodd Edith a Gladys Townsend o ardal Y Rhath yng Nghaerdydd â WAAC, bu'r ddwy yn gweini ym Mharc Cinmel ac mewn gwersyll hyfforddi ger Woolwich.
Rhyfel Diarbed oedd y Rhyfel Byd Cyntaf ac wrth syllu ar y rhestrau maith o enwau sydd wedi eu naddu ar gofebau ein pentrefi a'n trefi mae'n hawdd anghofio effaith dirfawr y gwrthdaro ar aelwydydd ledled Cymru a thu hwnt.