Sioc a thristwch yn Llanfrothen wedi marwolaethau pedwar
Mae pobl cymuned Llanfrothen yng Ngwynedd wedi cynnal munud o dawelwch i gofio am bedwar dyn ifanc a fu farw yn yr ardal.
Aeth Jevon Hirst, Harvey Owen, Wilf Fitchett a Hugo Morris ar goll yn ystod y penwythnos ar ôl treulio amser yn ardaloedd Harlech a Phorthmadog.
Cafwyd hyd i'w cyrff mewn car Ford Fiesta arian oedd wedi mynd oddi ar ffordd yr A4085.