Apêl am wybodaeth yn dilyn ymosodiad ar ddyn

Credir i'r ymosodiad ddigwydd toc cyn 23:00 ddydd Gwener, Tachwedd 29
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn ymchwilio i ymosodiad yng Nghwmbrân nos Wener.
Yn ôl adroddiadau, fe wnaeth dau ddyn ymosod ar ddyn arall cyn ei roi mewn car lliw tywyll ar Heol Pentref Henllys ger cyffordd Pant Gwyn Close, Henllys, yng Nghwmbrân.
Credir i'r ymosodiad ddigwydd toc cyn 23:00 ddydd Gwener, Tachwedd 29.
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth ynghylch yr ymosodiad neu a welodd ymddygiad amheus yn yr ardal i gysylltu â nhw.