Ymddiheuriad wedi i dân gwyllt saethu at dorf yn Sir Gâr

Disgrifiad,

Gwyliwch: Sgrechian wrth i dân gwyllt saethu at dorf o bobl yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd

Mae trefnwyr digwyddiad tân gwyllt yn Sir Gaerfyrddin wedi ymddiheuro ar ôl i dân gwyllt saethu i gyfeiriad y dorf.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i Neuadd Mynyddygarreg ger Cydweli am 19:30 ar 5 Tachwedd, ac roedd yr heddlu wedi cael gwybod am anafiadau yn y dorf.

Er nad oedd angen i griw tân ymateb i'r digwyddiad, dywedodd rhieni oedd yn bresennol wrth BBC Cymru bod eu plant wedi “dychryn” ar ôl i dân gwyllt saethu tuag atynt.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y trefnwyr eu bod yn "ymwybodol o ddigwyddiad yn ystod ein harddangosfa nos Fawrth lle wnaeth un tân gwyllt danio i gyfeiriad arall".

"Nid oedd unrhyw anafiadau difrifol wedi eu hadrodd i ni, ac fe wnaeth gweddill yr arddangosfa barhau heb ddigwyddiad arall."

Fe ychwanegodd y trefnwyr fod "diogelwch wastad wedi bod yn hollbwysig" a'u bod yn "sori am y straen sydd wedi ei achosi gan y digwyddiad."

Fe wnaethon nhw ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth ac maen nhw'n cydweithio â'r awdurdod lleol i adolygu eu gweithredoedd.

Straeon perthnasol