Saunders i adael Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Y disgwyl yw i Saunders gymryd yr awenau ar gyfer gêm gartref Doncaster yn erbyn Crystal Palace ddydd Sadwrn
Mae Dean Saunders wedi gadael clwb pêl droed Wrecsam i reoli Doncaster Rovers yng Nghynghrair y Bencampwriaeth.
Mae rheolwr Doncaster, Sean O'Driscoll wedi ei ddiswyddo ar ôl pum mlynedd yn y swydd.
Ar hyn o bryd mae Doncaster ar waelod y bencampwriaeth gydag un pwynt o'u saith gêm tra bod Wrecsam yn ail yng nghynghrair y Blue Square.
Er iddynt golli eu dwy gêm ddiweddaf mae'r Dreigiau wedi cael dechrau addawol i'r tymor ar ôl haf tymhestlog pan wynebodd y clwb broblemau ariannol.
Bydd Saunders yn cymryd yr awenau ar gyfer gêm gartref Doncaster yn erbyn Crystal Palace ddydd Sadwrn.
Dywedodd cyn-chwaraewr canol cae Wrecsam, Wayne Phillips: "Mae hyn yn golled mawr i Wrecsam ond mae'n gyfle da iawn iddo fod yn rheolwr yn y bencampwriaeth."