Band eang: 78,000 o gartrefi'n elwa
- Cyhoeddwyd

Bydd 78,000 o gartrefi a busnesau yn elwa
Bydd 78,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru yn cael gwasanaeth band eang cyflymach erbyn gwanwyn 2011.
Yn ôl cwmni BT, bydd 18 o ardaloedd ar eu hennill, gan gynnwys Y Fenni, Abergele, Bae Colwyn, Hwlffordd, Prestatyn, Senghennydd, Dinbych y Pysgod a Phrestatyn.
Dywedodd llefarydd y byddai gwifrau copor yn golygu cyflymdra band eang o 20 megabit yr eiliad.
Mae hynny ddwywaith y cyflymdra sydd ar gael i ran fwyaf o gartrefi a busnesau'r Deyrnas Gyfun ar hyn o bryd.
Eisoes mae 47% o gartrefi Cymru yn derbyn band eang cyflymach a bydd hyn yn cyrraedd 60% erbyn gwanwyn 2012.
'Carreg filltir'
Dywedodd BT fod y cynllun yn rhan o fuddsoddiad gwerth £2.5 biliwn.
Yn ôl Ann Beynon, Cyfarwyddwr BT (Cymru): "Mae'r buddsoddiad diweddar yn garreg filltir wrth ddatblygu systemau cyfathrebu.
"Mae gan BT ymroddiad i ddatblygu prosiectau band eang ac rydym am chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu technoleg gyflym i bob cymuned, gan gynnwys cymunedau gwledig."