Mullanys: Lladd anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd

Cafodd Ben a Catherine Mullany eu llofruddio ym mis Gorffennaf 2008
Clywodd cwest yn Abertawe fod cwpwl o Gymru, a gafodd eu lladd yn ystod eu mis mêl yn y Caribî, yn ddioddefwyr diniwed llofruddiaeth.
Cafodd Ben a Catherine Mullany eu lladd mewn dull dienyddio ar noson olaf eu gwyliau ar ynys Antigua yn 2008.
Cofnododd y cwest reithfarn o ladd anghyfreithlon ar y ddau - fe fydd eu llofruddwyr yn cael eu dedfrydu yn Antigua yr wythnos nesaf.
Gorfodwyd y ddau i benlinio wrth ymyl eu gwely yng ngwesty Cocos cyn iddyn nhw gael eu saethu yn eu pennau.
Sgrechfeydd
Clywodd y cwest for trigolion eraill y gwesty wedi clywed sgrechfeydd a sŵn saethu am 5:00am.
Galwyd yr heddlu, ac fe ddaethon nhw o hyd i Catherine Mullany yn farw, a'i gŵr Ben wedi ei anafu'n ddifrifol.
Cafodd ei gludo adre' i Gymru ond bu farw yn fuan ar ôl cyrraedd.
Dywedodd y Cwnstabl Emma Warner, a fu'n cysuro teuluoedd Ben a Catherine yn ystod y drasiedi, wrth y cwest:
"Roedden nhw'n ddioddefwyr diniwed. Bu'n rhaid i'r ddau benlinio wrth ymyl eu gwely cyn cael eu saethu.
"Daeth yr heddlu o hyd i getris y gwn a ddefnyddiwyd ar lawr yr ystafell, ac roedd difrod i ddrws yr ystafell 'molchi lle'r oedd wedi cael ei gicio.
"Roedd y sêff ar agor ac roedd swm o arian, camera digidol a dau ffôn symudol wedi eu dwyn oddi yno."
Fe gafwyd dau ddyn - Kaniel Martin, 23 oed, ac Avie Howell, 20 oed - yn euog o lofruddio'r cwpwl mewn achos ym mis Gorffennaf, a bydd y ddau'n cael eu dedfrydu'r wythnos nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2011