Rhybudd gan arweinwyr crefyddol Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae arweinwyr crefyddol yn darllen neges yn erbyn trais
Bydd arweinwyr crefyddol y gymuned Foslemaidd yng Nghasnewydd yn pregethu yn erbyn trais eithafwyr Islamaidd ddydd Gwener.
Mae'r neges yn cael ei chyfleu ym mhob un o saith mosg y ddinas ar ôl gweddi.
Yng Nghasnewydd mae tua 2,000 o ddynion yn mynd i addoldai Moslemaidd.
Daw'r bregeth wythnosau ar ôl i ddau ddyn o Gaerdydd gael eu harestio yn Kenya wrth geisio croesi'r ffin i Somalia.
Dywedodd tad un ohonyn nhw fod ei fab 18 oed wedi ei ddylanwadu gan radicaliaid i feddwl ei fod yn mynd i ryfel cyfiawn dros Islam.
Yn ôl Sheik Mohammad Tahir Ullah, cadeirydd Mosg Shah Poran Jame, roedd grwpiau radical o Gaerdydd wedi ymweld â Chasnewydd yn ddiweddar.
Dywedodd fod arweinwyr y mosg wedi dweud nad oedd yna unrhyw groeso i'r grwpiau.
"Fe ddaethon nhw i'r mosg er mwyn dosbarthu taflenni ond fe wnaethon ni eu rhwystro rhag gwneud hynny.
"Roedd y daflen yn dweud nad oedd rhaid i Foslemiaid bleidleisio a bod pleidleisio wedi ei wahardd. Dyw hynny ddim yn iawn.
"Roedd yn dweud hyn - oherwydd nad oedd cyfraith Sharia yn y wlad hon fod ganddyn nhw hawl i droseddu. Dyw hynny ddim yn iawn.
"Yn ôl y Corân, mae'n rhaid i chi ufuddhau cyfraith y wlad.
"Fe alwyd yr heddlu, a chafodd y dynion wybod nad oedd yna unrhyw groeso iddyn nhw.
Bydd y darlleniadau ar ôl gweddi dydd Gwener yn digwydd tua 1.10pm.
Mae Heddlu Gwent yn cefnogi'r syniad.
Dywedodd Mike Davies, swyddog troseddau casineb: "Bydd hyn yn rhoi neges glir fod gwir Foslemiaid yn gwrthod eithafiaeth."