50 o swyddi newydd i Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae Cobra UK yn cyflenwi rhannau ar gyfer Bentley, Audi a Volvo hefyd
Bydd bron i 50 o swyddi'n cael eu creu yn Wrecsam wrth i gwmni cydrannau ceir agor ffatri newydd.
Mae'r agoriad yn rhan o gynllun ehangu gwerth £6.5 miliwn gan gwmni Cobra UK Automotive Products, sydd â'u pencadlys yn Y Trallwng.
Mae'r cwmni wedi arwyddo cytundeb newydd gwerth £12 miliwn gyda chwmni Vauxhall Motors.
Bydd Cobra nawr yn symud i adeilad ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam oedd yn gartref i gwmni o'r Almaen tan i hwnnw adael pedair blynedd yn ôl.
Bryd hynny cafodd 125 o weithwyr eu diswyddo, ond eisoes mae rhai o'r rheini wedi cael eu recriwtio wrth baratoi am y gwaith newydd.
Dyblu
Mae Cobra yn cyflogi 49 o bobl yn eu ffatri ar Barc Menter Buttington Cross yn Y Trallwng, ond mae'r cytundeb newydd yn golygu y bydd rhaid dyblu'r gweithlu.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Cobra, Gary Searle, eu bod yn gobeithio creu 22 o swyddi ychwanegol yn Wrecsam os fydd cais am arian ychwanegol o Gronfa Twf Economi Cymru yn llwyddiannus.
Ychwanegodd fod y cwmni eisoes wedi derbyn arian o un o gynlluniau Llywodraeth Cymru er mwyn symud i Wrecsam.
"Byddai'r ehangu yma ddim wedi digwydd heb y gefnogaeth a'r arian a gawsom sydd wedi ein galluogi i brofi a gwirio cynlluniau newydd a phrynu offer sy'n gallu ateb y galw uchel gan Vauxhall," meddai Mr Searle.
Mae Cobra yn cynhyrchu cydrannau ceir ar gyfer rhai o gwmnïau ceir enwoca'r byd gan gynnwys Volvo, Bentley, Audi a Vauxhall, ac ynghyd â marchnadoedd Ewrop mae'n cyflenwi cynnyrch i rannau eraill o'r byd megis Brasil a Chanada.
Bydd staff yn gweithio dros y Nadolig yn gosod offer newydd fel y gall y gwaith cynhyrchu ddechrau yn Wrecsam yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2011