Bangor: 'Perfformiad godidog'
- Cyhoeddwyd

Roedd perfformiad Bangor yn odidog yn eu gêm ola ar Ffordd Farrar o flaen torf o fwy na 2,500 - curo Prestatyn o 5-3.
Y fuddugoliaeth yn eu codi i frig y tabl ac yn coroni 91 o flynyddoedd o chwarae ar y cae hanesyddol.
Yn Stebonheath collodd Llanelli 0-1 i Gastell-nedd. Collins sgoriodd wedi 43 o funudau ond cafodd Fowler o'r ymwelwyr ei anfon o'r cae.
Bangor 5 Prestatyn 3
Llanelli 0 Castell-nedd 1
Dydd Llun
Roedd cyfle, am 24 awr o leiaf, i'r Seintiau Newydd godi i frig yr Uwchgynghrair gyda buddugoliaeth yn y Drenewydd, y tîm olaf ond un.
Daeth y goliau yn yr ail hanner. Roedd argoel o ganlyniad annisgwyl wrth i Boundford roi'r tîm cartref ar y blaen ond tarodd y Seintiau yn ôl, goliau gan Spender, Roberts a Jones. Buddugoliaeth o 3-1.
Brwydr ar waelod y tabl oedd hi ar faes Park Avenue gydag Aberystwyth yn chwarae Caerfyrddin.
Caerfyrddin oedd yn parhau ar waelod yr adran ar ôl colli 4-1. Goliau Thomas (4), James (16) Parkinson (75) a Nalborski (83) sicrhaodd y pwyntiau i'r tîm cartref.
Aberystwyth 4 Caerfyrddin 1
Bala 1 Airbus 0
Y Drenewydd 1 Seintiau Newydd 3
Port Talbot 2 Lido Afan 2