Cynllun bomio: Pledio'n euog
- Cyhoeddwyd

Fe blediodd y pedwar, Mohammed Chowdhury, Shah Rahman, Gurukanth Desai ac Abdul Miah, yn euog i gynllunio i ffrwydro bom
Mae pedwar dyn wedi pledio'n euog i gynllunio i ffrwydro bom yng Nghyfnewidfa Stoc Llundain.
Fe blediodd Gurukanth Desai ac Abdul Miah, dau frawd o Gaerdydd, Mohammed Chowdhury a Shah Rahman, y ddau o Lundain, yn euog i gyhuddiad o gymryd rhan mewn gweithgareddau wrth baratoi ar gyfer troseddau terfysgol.
Cafodd y pedwar, blediodd yn ddieuog yn wreiddiol, eu harestio yn Rhagfyr 2010.
Mae pump arall wedi pledio'n euog i gyhuddiadau'n ymwneud â throseddau terfysgol a bydd y naw yn cael eu dedfydu yr wythnos nesa.
'Anrhefn economaidd'
Dywedodd yr erlynydd Andrew Edis QC nad oedd y pedwar wedi bwriadu lladd nag anafu'n ddifrifol.
"Eu nod oedd achosi braw ac anrhefn economaidd ond roedd eu dull yn golygu risg y byddai pobl yn cael eu lladd neu eu hanafu," meddai.
Cafodd Chowdhury ddedfryd o 18 mlynedd a chwe mis a Rahman uchafswm o 17 mlynedd.
Roedd y ddau o Gaerdydd, Gurukanth Desai, 30 oed o Stryd Albert ac Abdul Miah, 25 oed o Heol Parc Ninian, wedi pledio'n euog i baratoi ar gyfer troseddau terfysgol, sef cynllunio i osod dyfais ffrwydrol yn nhoiledau'r Gyfnewidfa Stoc.
Plediodd Omar Latif, 28 oed o Stryd Neville, Caerdydd, yn euog i fynychu cyfarfodydd gyda'r bwriad o helpu eraill i baratoi neu gyflawni gweithredoedd terfysgol.
Clywodd y llys fod y diffynyddion wedi cwrdd oherwydd eu bod yn aelodau o grwpiau radicalaidd.
Roedden nhw wedi cadw mewn cysylltiad ar y we, ffonau symudol a chyfarfodydd wedi eu trefnu o flaen llaw.
Maer Llundain
Daeth i'r amlwg fod y rhai blediodd yn euog i dargedu'r Gyfnewidfa Stoc am anfon bomiau drwy'r post cyn Nadolig 2010.
Roedden nhw hefyd wedi trafod lansio ymosodiad tebyg i'r un gafwyd ym Mumbai yn India.
Roedd rhestr y daethpwyd o hyd iddi yn cynnwys enwau a chyfeiriadau Maer Llundain, Boris Johnson, dau rabi, Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau a'r gyfnewidfa.