Poeni am ddyn ar goll
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi dweud eu bod yn poeni am ddyn 36 oed sydd wedi bod ar goll ers bore Sadwrn.
Y dyn yw Owain Roberts o Aberteifi.
Mae'n 5 troedfedd 10 modfedd o daldra, yn denau a chanddo wallt brown ac yn ei glust chwith mae pedwar clustdlws.
Roedd yn gwisgo siwmper ddu a jîns ac yn cario sach deithio lwyd.
Y gred yw ei fod yn bwriadu cerdded ar hyd llwybr yr arfordir.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.