Cyrch achub wrth i gwch fwrw creigiau
- Cyhoeddwyd
Mae cyrch achub ar droed wedi i gwch cargo daro craig oddi ar arfordir Conwy nos Fawrth.
Cafodd dau fad achub a hofrennydd eu galw am 8.30pm nos Fawrth wedi i'r cwch daro craig ger glanfa yn Llanddulad ger Bae Colwyn.
Dywed Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) fod y cwch yn llong Almaenaidd gyda saith o bobl o Wlad Pwyl arni.
Cafodd lôn ddwyreiniol yr A55 ei chau rhwng cyffordd 22 a chyffordd 23 am 10pm nos Fawrth i alluogi'r hofrennydd i lanio.
Y gred yw bod y cwch yn defnyddio'r lanfa i lwytho calchfaen.
Yn ôl y RNLI cafodd badau achub Llandudno a'r Rhyl eu lansio yng nghanol "tymestl a môr garw" am 8.30pm a chyrhaeddon nhw'r lanfa am 9pm.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol