Cynghrair Europa: Derwyddon Cefn 0-0 MyPa
- Cyhoeddwyd

Bydd tîm Huw Griffiths yn teithio i'r Ffindir ar gyfer yr ail gymal ar Orffennaf 12.
Wrth chwarae eu gêm gyntaf ar lefel Ewropeaidd, cafodd y Derwyddon gêm ddi-sgôr yn erbyn MyPa o'r Ffindir ar y Cae Ras yn Wrecsam.
Y Derwyddon gafodd cyfle gorau'r hanner cyntaf wrth i beniad George Hughes fwrw'r postyn yn dilyn croesiad Rees Darlington.
Y tîm cartref gafodd cyfleodd gorau'r ail hanner hefyd gydag ergyd Mark Harris o 25 llath yn gorfodi arbediad gan Kuismala.
Bydd tîm Huw Griffiths yn teithio i'r Ffindir ar gyfer yr ail gymal ar Orffennaf 12.
Derwyddon Cefn: Mullock, Harris, Hesp, James, Darlington, Gareth Edwards, Hughes, Quinn, Dures, Burke, Steve Jones. Subs: Ackerley, Griffiths, Jack Edwards, McElmeel, Duckett, Price,Cann.
MyPa: Kuismala, Vesala, Kukka, Koskinen, Aho, Nongotamba, Gela, Oksanen, O'Neill, Ramandingaye, Saxman. Subs: Liskola, O'Shaughnessy, Vuorinen, Sihvola, Soiri, Anttilainen.
Dyfarnwr: Nikola Dabanovic (Montenegro)
Torf: 813