Teyrnged i ddyn teulu a fu farw wedi ffrwged
- Cyhoeddwyd

Bu farw dyn lleol 42 oed, Jonathan Sillett, ym Mhrestatyn nos Sadwrn
Mae teulu dyn a fu farw dros y penwythnos wedi ffrwgwd ym Mhrestatyn wedi talu teyrnged iddo.
Bu farw Jonathan Sillett a oedd yn 42 oed.
Cafodd Mr Sillett ei ddisgrifio fel dyn teuluol.
"Gweithiodd yn galed i ddarparu ar gyfer ei deulu a'u gwarchod hyd y diwedd," meddai'r datganiad.
Mae'n gadael gweddw, Hayley, sy'n disgwyl plentyn o fewn y mis nesaf.
Mae ganddyn nhw ferch bedair oed hefyd.
"Fe fydd ei deulu a'i ffrindiau yn ei golli."
Pobl lleol
Mae chwech person wedi eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad wedi'r digwyddiad.
Y chwech yw dau ddyn 21 oed, dyn 22 oed, dyn 23 oed, dyn 20 oed a menyw 19 oed.
Maen nhw i gyd yn lleol.
Cafodd dyn 22 oed a menyw 21 oed, oedd wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio, eu rhyddhau ar fechnïaeth nos Lun.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Graham Talbot: "Mae'r ymchwiliadau'n parhau i'r farwolaeth amheus hon ac rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd ac a welodd unrhyw beth."
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2012