Ffrae am golli lleoedd parcio
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr a pherchnogion busnes yn Aberteifi yn feirniadol iawn o'r penderfyniad i gau tua 15 o safleoedd parcio yng nghanol y dre'.
Byddai'r lleoedd yn diflannu er mwyn dechrau atgyweirio castell y dre'.
Mae pobl fusnes a chyngorwyr lleol wedi dweud wrth BBC Cymru nad oedd Cyngor Sir Ceredigion wedi holi eu barn am gau'r safleoedd ger ardal y Strand.
Maen nhw'n dadlau y dylai'r gwaith gael ei wneud wedi i'r tymor ymwelwyr ddod i ben.
Ond yn ôl y cyngor, allan nhw ddim oedi ymhellach gan fod rhaid cwblhau'r gwaith mewn amser penodol er mwyn cadw grantiau.
Mae tua £11m yn cael ei wario ar y prosiect i drawsnewid Castell Aberteifi, gyda chyfraniadau gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.
Cyfnod prysur
Mae parcio yn gallu bod yn anodd yn Aberteifi yn ystod mis Awst gan fod y dre' yn denu cymaint o ymwelwyr.
Ac mae 'na ŵyl fwyd yn cael ei chynnal dros y penwythnos nesa' yn ogystal â Gŵyl y Cei ddiwedd y mis.
Dywedodd y Cynghorydd John Adams Lewis wrth BBC Cymru y dylid fod wedi gohirio cau'r safleoedd parcio tan ddiwedd y cyfnod gwyliau ym mis Medi.
"Maen nhw wedi cau un ochr o'r hewl, maen nhw wedi gwneud i ffwrdd â rhyw 15 o leoedd parcio yng nghanol mis Awst pan mae bwrlwm twristiaid.
"Dwi'n derbyn a chefnogi'r gwaith sydd i fod i gael ei wneud ond dwi ddim yn derbyn bod rhaid ei wneud e ym mis Awst - yr amser mwya' prysur yn y dre' gyda bwrlwm y twristiaid.
"Dyw e ddim yn deg â busnesau'r dre' oherwydd maen nhw'n diodde' nawr oherwydd y dirwasgiad economaidd ar hyn o bryd."
'Gwarthus'
Dywedodd un o berchnogion busnes y dre' ac aelod o fudiad Masnachwyr Aberteifi, Keith Davies: "Dwi'n gwybod ei bod hi'n anodd cadw pawb yn hapus - mae'n brosiect mawr.
"Ond byddech chi'n meddwl y bydden nhw wedi cysylltu â ni i weld a allan nhw ddechrau ym mis Medi neu rywbeth fel 'na.
"Dau beth sydd wedi fy hala i'n grac - 'sneb wedi cael gwybod dim byd, sy'n warthus - a hefyd dechrau ym mis Awst.
"Mae rhai jyst yn dala mewn busnes, mae mor wael â hynna a ro'n nhw'n dibynnu ar y mis yma i roi 'chydig bach o hwb iddyn nhw a gobeithio bod pethe'n mynd i ddod yn well - ac wedyn ma' hwn wedi dod."
Mewn datganiad dywedodd y cyngor sir: "Mae'r gwaith o adfer Castell Aberteifi yn cael ei ystyried yn ddatblygiad strategol i'r dre'.
Colli arian
"Dan amodau'r cyllid mae'n rhaid agor y castell ym mis Ebrill 2014 a byddai methu gwneud hyn yn arwain at golli'r arian a rhoi'r gorau i'r freuddwyd o adfer y castell.
"Wrth roi caniatâd ar gyfer y ffensio, roedd rhaid i'r cyngor ystyried yr effaith ar gyllid petai'r cais yn cael ei wrthod ond roedd rhaid hefyd ystyried yr angen am barcio trwy gyfyngu ar y ffensio cymaint â phosib."
Yn ôl cyfarwyddwr y castell, Steffan Crosby: "Mae'n wych gweld y gwaith yma'n mynd rhagddo o'r diwedd - y waliau yw un o rannau mwya' cymhleth y prosiect a hefyd y mwya' gweladwy.
"Mae'n wirioneddol ddrwg gennym na fydd modd defnyddio'r safleoedd parcio'r tu allan i'r castell am y tro - ond bydd y dre' yn elwa yn y pendraw o weld safle'r castell wedi'i adfywio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2012
