Y Sioe Fawr: Newidiadau ymysg swyddogion
- Cyhoeddwyd

Mae David lewis yn fridiwr Charolais
Mae arwerthwr o Geredigion wedi ei ethol fel cadeirydd newydd Cyngor Y Sioe Frenhinol.
Mae David Lewis yn olynu Alun Evans o Dywyn, Meirionnydd, oedd yn gadeirydd ers 2006.
Mr Lewis oedd Llywydd y Sioe Frenhinol yn 2005 a chadeirydd bwrdd Y Sioe Frenhinol o 2006 tan iddo ymddeol o'r swydd ym mis Hydref eleni.
Mae Mr Lewis, o Landysul, yn arwerthwr wnaeth adfer marchnadoedd yn Llandysul a Chastell Newydd Emlyn.
Mae e hefyd yn fridiwr gwratheg Charolais o dras ac mae'n gyn-gadeirydd Cymdeithas Gwartheg Charolais.
Yn ddiweddar cafodd y ffermwr o Sir Benfro, John Davies, ei benodi fel cadeirydd bwrdd rheoli'r Sioe Fawr.
Ym mis Mai y flwyddyn nesaf bydd David Walters yn ymddeol wedi 28 o flynyddoedd yn y swydd.
Ym mis Tachwedd fe gyhoeddwyd y bydd yn cael ei olynu gan Steve Hughson, sy'n Brif Arolygydd gyda Heddlu Dyfed-Powys.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2012

- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2012
