Adroddiad: Magu plentyn yn costio £207,000 yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Dywed yr adroddiad fod cost addysg i blentyn yng Nghymru wedi codi i £68,817
Cymru yw un o'r lleoedd rhataf ym Mhrydain i fagu plant yn ôl ymchwil newydd.
Mae 'na amcangyfrif bod cost bwydo, prynu dillad ac yn y blaen o'r crud tan fod y plentyn yn 21 oed dros £200,000.
Yn ôl adroddiad gan gwmni Yswiriant Liverpool Victoria ar gyfartaledd mae'r gost o fagu plentyn yng Nghymru wedi codi £50% yn ystod y degawd diwethaf i £207,120.
Dywed adroddiad Cost Plentyn fod rhieni'n gwario £66,647 yn fwy nag oedden nhw yn 2003.
'Pwysau aruthrol'
Er hynny Cymru yw'r ardal rataf ond un yn y Deyrnas Unedig i fagu plant.
Y rhanbarth rhataf yw Gogledd Ddwyrain Lloegr lle mae'r gost o godi plentyn yn £206,495.
Llundain yw'r ardal ddrytaf i fagu plentyn. Y gost ym mhrifddinas y DU yw £234,263 o'i gymharu â'r cyfartaledd yn y DU o £218,000.
Dywed yr adroddiad fod cost addysg i blentyn yng Nghymru wedi codi i £68,817 gan gynnwys gwisg ysgol, clybiau ar ôl ysgol, a thaliadau dysgu prifysgolion.
Yn ôl yr adroddiad mae costau gofal plant hefyd yn cynyddu. Mae 'na amcangyfrif bod gofalwyr plant yn costio £60,000 i deuluoedd.
Yn ôl yr elusen Achub y Plant mae'r ffigyrau'n dangos y pwysau aruthrol mae teuluoedd yn gorfod dioddef.
'Tlodi'
Dywedodd Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru, Mary Powell-Chandler: "Mae' na beryg y bydd mwy o blant yng Nghymru yn dioddef tlodi oherwydd bod costau byw yn codi, y toriadau i fudd-daliadau, a diffyg gwasanaethau gofal plant fforddiadwy.
"Mae ein hymchwil yn dangos bod plant yn poeni am nad oes digon o arian gan eu teuluoedd a bod mwy na hanner o'r rheini sydd yn dioddef tlodi yn dweud bod diffyg arian yn achosi anhapusrwydd neu straen i'w rhieni.
"Felly mae'n bwysig iawn i Lywodraeth Cymru ddwysáu'r camau i frwydro yn erbyn tlodi ymysg plant a chyrraedd eu targed yn 2020."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn pryderu bod newidiadau i'r system budd-daliadau sy'n cynnwys budd-daliadau plant, gan Lywodraeth y DU, yn cael effaith negyddol arwyddocaol ar deuluoedd yng Nghymru yn ystod y cyfnod anodd hwn i'r economi.
"Mae canfyddiadau ein hymchwil ynghylch asesu effaith diwygiadau lles yng Nghymru yn awgrymu bod cartrefi gyda phlant yn cael eu heffeithio fwyaf gan y diwygiadau o'i gymharu â chartrefi heb blant a chartrefi pobl sydd wedi ymddeol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2012

- Cyhoeddwyd17 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd4 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2012

- Cyhoeddwyd20 Mai 2012
