Toriadau cyngor Powys: 200 swydd yn y fantol
- Cyhoeddwyd

Gallai'r cyngor arbed £4.8 miliwn drwy dorri 200 o swyddi
Mae cynghorwyr Powys yn cyfarfod unwaith yn rhagor i drafod cynlluniau i ddiswyddo hyd at 200 o weithwyr er mwyn arbed arian.
Dywed y cyngor y bydd angen arbed £30 miliwn dros gyfnod o dair blynedd neu bydd yr awdurdod yn mynd i ddyled.
Cafodd penderfyniad ynglŷn â phecyn o doriadau ei ohirio wrth i'r cynghorwyr gwrdd ar Chwefror 21.
Mae undeb Unison yn gwrthwynebu'r cynllun i dorri swyddi a allai arbed £4.8 miliwn i'r cyngor.
Hefyd mae cabinet y cyngor wedi argymell torri 75% o grantiau cymunedol ac ystyried y posibilrwydd o godi tâl ar drafnidiaeth i ddisgyblion dosbarth chwech.
Ond yn dilyn gwrthwynebiadau dywed y cabinet eu bod yn awr yn bwriadu torri 25% o grantiau cymunedol gan gyflwyno'r toriadau dros gyfnod o dair blynedd.
Mae cynghorwyr hefyd yn cynnal mwy o drafodaethau cyn iddynt benderfynu ynghylch dechrau codi tâl ar drafnidiaeth i ddisgyblion chweched dosbarth ai peidio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2013

- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2013

- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2013

- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2012
