Cynlluniau i greu lagŵn yn Abertawe
Mae 'na gynlluniau ar y gweill i greu lagŵn neu forlyn ym Mae Abertawe.
Yn ôl y datblygwyr fe fydd yn cynhyrchu digon o drydan ar gyfer holl gartrefi'r ddinas gan ddefnyddio ynni'r llanw.
Maen nhw'n deud bod cynghorwyr wedi ymateb yn gadarnhaol i'r syniad.
O Abertawe adroddiad Owain Evans.