Nifer y di-waith yn codi
- Cyhoeddwyd
Cododd nifer y di-waith yng Nghymru yn ystod y tri mis rhwng Tachwedd 2012 ac Ionawr 2013, o'i gymharu â'r cyfanswm yn ystod y tri mis blaenorol.
Roedd 7,000 yn fwy o bobl yn ddi-waith, cyfanswm o 125,000, sy'n cyfateb i 8.4% o'r boblogaeth.
Ar draws y DU roedd ychydig dros 2.5 miliwn yn ddi-waith.
Mae'r niferoedd yn is nag oedden nhw yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn ôl.
Dywedodd Gweinidog Cyflogaeth Llywodraeth y DU, Mark Hoban: "Mae ffigyrau heddiw'n dangos ein bod, ar waetha cefndir economaidd anodd, yn helpu pobl i symud oddi ar fudd-daliadau ac i mewn i waith.
"Mae yna heriau anodd yn dal i fod o'n blaenau a dyna pam ry' ni'n gweithio'n galed i roi'r cymorth a'r gefnogaeth y mae ceiswyr gwaith eu hangen er mwyn gwireddu eu dyhead o gael hyd i swydd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r sefyllfa economaidd yng Nghymru yn parhau'n heriol oherwydd gwendid yr economi fyd-eang a thoriadau mewn gwariant a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU.
"Tra bod yr holl arfau macro-economaidd yn nwylo Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu pobl fewn i swyddi neu hyfforddiant."
Ond yn ôl y Democrat Rhyddfrydol, Eluned Parrott AC, Llywodraeth Cymru sydd ar fai, a galwodd ar y Prif Weinidog Carwyn Jones a Gweinidog yr Economi, Edwina Hart i "newid gêr a hynny ar frys er mwyn sicrhau nad yw Cymru'n syrthio ymhellach ar ei hôl hi".
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood fod y cynnydd yng Nghymru yr un peth â'r cynnydd ar draws y DU:
"Cymharwch hyn gyda'r Alban, ble mae diweithdra wedi disgyn.
"Mae hyn yn newyddion ofnadwy, ac rwy'n cydymdeimlo â'r nifer o deuluoedd sy'n dioddef o ganlyniad i hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2013
