Profion: 'Dim cig ceffyl' ym myrgys cwmni ger Llanelwedd
- Cyhoeddwyd
Mae profion wedi dangos na werthodd cwmni o Bowys fyrgyrs eidion oedd yn cynnwys cig ceffyl.
Roedd y Burger Manufacturing Company o Lanfair ym Muallt wedi prynu peth o'i eidion oddi wrth Farmbox Meats ger Aberystwyth.
Tynnodd y BMC eu cynnyrch yn ôl wedi i olion cig ceffyl ddod i'r amlwg ac fe wnaeth sawl awdurdod dynnu'r byrgyrs yn ôl o'u hysgolion a'u cartrefi gofal ar y pryd.
Fodd bynnag, mewn datganiad byr ar ei wefan mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud bod "profion dilynol yn cadarnhau presenoldeb DNA ceffylau ar lefelau is na'r trothwy o 1% ..."
'Negyddol'
Gall profion DNA olrhain hyd yn oed olion eithriadol o fach o DNA felly mae unrhyw beth o dan 1% yn cael ei gyfrif yn negyddol.
Mae perchnogion y BMC wedi dweud wrth BBC Cymru fod y profion DNA llawn yn dangos bod olion DNA ceffylau rhwng 0.02% a 0.046%.
Dywedodd y cyfarwyddwr Andrew Sparks: "Rwy'n deall bod hynny'n cyfateb i ronyn o halen mewn bocs o fyrgyrs."
Roedd wedi cael gwybod, meddai, y gallai olion DNA ceffylau fodoli hyd yn oed os oedd ffatri wedi cael ei sterileiddio'n drylwyr rhwng torri cig eidion a chig cheffyl.
Ailddechrau
Yn y cyfamser, mae perchennog Farmbox Meats, Dafydd Raw-Rees, a dau ddyn arall yn parhau ar fechnïaeth yr heddlu ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau twyll.
Mae'r cwmni ei hun wedi cael caniatâd i ailddechrau cynhyrchu.
Eisoes mae'r Gymdeithas Cyflenwyr Cig Annibynnol wedi honni bod yr holl brofion ar gig eidion o Farmbox Meats yn glir.
Dywedodd Steve Lomax ar ran y mudiad: "Roedd yr holl honiadau yn erbyn Farmbox yn ddi-sail".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2013

- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2013

- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2013
