Mwy yn rhoi organau ers 2008
- Cyhoeddwyd

Y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford sydd yn gyfrifol am y bil rhoi organau sy'n cael ei ystyried gan bwyllgorau'r Cynulliad ar hyn o bryd
Mae'r nifer o organau sydd wedi cael eu rhoi yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf wedi codi - ond roedd y cynnydd ar draws y Deyrnas Unedig (DU) dros yr un cyfnod yn uwch.
Bu cynnydd o 50% yn nifer yr organau gafodd eu rhoi yn flynyddol yn y DU ers 2008.
Y cynnydd yng Nghymru ar gyfer yr un cyfnod oedd 15.6%.
Mae nifer y bobl sydd ar restr rhoi organau y DU wedi aros yn eithaf cyson ers 2008.
Nyrsys arbenigol sy'n cael y clod am sicrhau'r cynnydd, wrth iddyn nhw lwyddo i ddarbwyllo mwy o deuluoedd i ganiatáu i organau eu hanwyliaid gael eu defnyddio.
"Tuedd cadarnhaol"
Er i'r nifer o organau gafodd eu rhoi leihau rhwng 2011/12 a 2012/13, mae Gweinidog Iechyd Cymru Mark Drakeford yn dweud bod y tuedd cyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf yn "gadarnhaol".
"Dros y pum mlynedd diwethaf mae'r niferoedd o organau sy'n cael eu rhoi yng Nghymru wedi dilyn tuedd cadarnhaol.
"Rydym yn disgwyl gweld amrywiadau yn y ffigyrau oherwydd mae'r niferoedd yn yr ystadegau yn gymharol fach - mae newidiadau bach iawn yn medru newid y darlun cyffredinol yn sylweddol.
Y tuedd cyffredinol, yn hytrach na'r newidiadau o flwyddyn i flwyddyn, sy'n adrodd y stori bwysig."
Mae pryderon wedi cael eu codi dros y blynyddoedd diwethaf gallai mesur organau arfaethedig Llywodraeth Cymru arwain at lai o bobl yn cytuno i roi organau.
Byddai'r mesur yn golygu bod y llywodraeth yn ystyried bod pawb sydd heb eithrio eu hunain o'r system yn fodlon i'w horganau gael eu cymryd.
Gwadodd Mr Drakeford bod cysylltiad rhwng y cynlluniau, a'r lleihad a welwyd rhwng 2011/12 a 2012/13: "Does dim tystiolaeth benodol bod cysylltiad rhwng y lleihau yn y nifer o organau a chynlluniau deddfwriaethol y llywodraeth."
Mae'r nifer o bobl y mae organau'n cael eu cymryd ganddynt yng Nghymru bob blwyddyn yn fach - 52 oedd y ffigwr ar gyfer 2012/13.
Roedd y ffigwr ar gyfer 2011/12 yn uwch - 67. Mae hynny'n golygu bod y newid rhwng 2007/08 a 2011/12 yn 49% - sy'n cyfateb yn fras i'r cynnydd cyfartalog ar draws y DU.
"Teuluoedd yn gwrthod"
Yn siarad ar raglen Post Cyntaf y BBC, dywedodd Eiddwen Glyn sy'n nyrs sydd yn arbenigo mewn triniaeth cleifion sydd wedi derbyn trawsblaniadau bod mwy o le i wella:
"Fysa chi'n gobeithio y bysa [y niferoedd sy'n rhoi organau] yn codi yn fwy.
"Mae'r teuluoedd yn gwrthod weithiau er bod y person ei hun wedi cynnig ei hun ar yr organ donor register."
Pan ofynnwyd iddi a oedd hi'n credu y byddai mesur organau'r llywodraeth yn cynyddu'r nifer o organau sy'n cael ei rhoi, dywedodd Ms Glyn ei bod hi'n credu y gallai "efallai wella pethau".
Bydd dadl ar y mesur yn cael ei chynnal yn y Cynulliad ar Ebrill 16 am oddeutu 4.30pm - gallwch ei wylio'n fyw ar wefan Democratiaeth Fyw y BBC.