Streic drenau am 24 awr
- Cyhoeddwyd

Bydd y gweithwyr yn streicio ddydd Gwener a dydd Sadwrn
Bydd gweithwyr rheilffordd yn cynnal streic 24 awr oherwydd anghydfod am ddiswyddo gweithiwr yn Abertawe.
Dywedodd undeb yr RMT fod diswyddo Andy Davies yn "ymateb llym" i rywbeth ddigwyddodd pan nad oedd ar ddyletswydd.
Mae aelodau'r undeb wedi pleidleisio o fwyafrif o ddau i un i alw am iddo gael ei swydd yn ôl.
Ychwanegodd yr undeb fod y cyflogwyr - cwmni First Great Western - heb ystyried record ddilychwin Mr Davies am 30 mlynedd gyda'r cwmni.
'Gwarchod'
Bydd gweithwyr ar y trenau yn streicio ddydd Gwener a dydd Sadwrn ac mae'r undeb wedi dweud y bydd y gweithredu yn amharu ar wasanaethau.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Bob Crow: "Mae aelodau'r RMT wedi dewis cefnogi'r undeb a gwarchod cydweithiwr yn yr anghydfod diswyddo annheg yma.
"Ni fydd yr undeb yn sefyll o'r neilltu a gadael iddyn nhw drin eu gweithwyr gyda'r math yma o ddirmyg.
"Mae'r RMT ar gael i gynnal trafodaethau gyda'r nod o ddatrys yr anghydfod ..."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2013