Mynd dramor i wneud shifftiau nos
- Cyhoeddwyd

Mae'r swyddfa yn Auckland yn Seland Newydd
Mae staff canolfan alwadau o Gymru yn gweithio ochr arall y byd am gyfnod er mwyn gwneud shifftiau nos yn y DU.
Gyda Seland Newydd 12 awr o flaen Cymru, mae staff Moneypenny sydd fel arfer wedi'u lleoli yn Wrecsam yn parhau i weithio shifftiau dydd ond yn darparu gwasanaeth drwy'r nos pan fo'u cydweithwyr adre' yn gorffen am y dydd.
Mae pedwar, aeth i Seland Newydd ym mis Tachwedd, ar fin teithio'n ôl i Gymru.
Gan fod y staff yn gweithio am bedwar diwrnod cyn cael hoe o bedwar diwrnod mae cyfle i weld tipyn o'r wlad.
'Ffantastig'
Dywedodd Jess Edwards, 24 oed o'r Holt ger Wrecsam: "Mae'n brofiad ffantastig ... dwi'n cael mynd i leoedd na fyddwn i fyth wedi cael cyfle eu gweld.
"Dwi wedi bod i Awstralia ac Ynys y De a'r Gogledd yn Seland Newydd."
Mae'r cwmni'n derbyn 8 miliwn o alwadau'r flwyddyn oddi wrth fasnachwyr unigol a chwmnïau rhyngwladol.
'O'r radd flaenaf'
Rachel Clacher a'i brawd Ed Reeves sefydlodd y cwmni.
Y broblem, meddai hi, oedd mai dim ond ychydig o'r 280 o staff yng Nghymru oedd eisiau gweithio shifftiau nos.
Ond dywedodd mwy na 40 y bydden nhw'n dymuno mynd i Seland Newydd i weithio.
"Mae'n golygu bod ein gwasanaeth o'r radd flaenaf ddydd a nos a phawb yn sionc a bywiog drwy'r amser."