Agor enwebiadau
- Cyhoeddwyd

Yr artist Mecsicanaidd Teresa Margolles oedd yn fuddugol yn Artes Mundi 5 2012
Mae un o wobrau celf fwyaf uchel ei bri yn y Deyrnas Unedig, yr Artes Mundi yn gofyn am enwebiadau artistiaid.
Cystadleuaeth yw hon sydd yn agored i unigolion yn y byd celf sydd wedi ennill eu plwyf yn eu gwlad eu hunain ac sydd wedi dechrau gwneud enw yw hunain ar y llwyfan rhyngwladol.
Hon yw'r chweched gwaith i'r gystadleuaeth gael ei chynnal ac mae ar agor ar gyfer unigolion o unrhyw oed.
Mae yna enwebiadau yn dod o bedwar ban y byd.
Rhaid i'r gwaith ymwneud gyda realiti cymdeithasol, y cyflwr dynol a phrofiadau y mae pobl wedi byw drwyddo.
Bydd rhwng pump a saith artist yn cael eu dewis i fod ar y rhestr fer gan ddangos eu gwaith mewn arddangosfa yn 2014.
Dau guradur annibynnol sydd yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol fydd yn edrych ar yr enwebiadau ac yn dewis y rhestr fer - sef Adam Budak a Sabine Schaschl, Cyfarwyddwr Hauskonstruktiv, Zurich.
Mae panel o feirniaid ar draws y byd wedyn yn penderfynu ar yr enillydd.
£40,000 o bunnau yw'r wobr tra bod y cystadleuwyr eraill ar y rhestr fer yn derbyn £2,000 o bunnoedd yr un.
Yr arddangosfa
Dangosir gwaith yr arlunwyr sydd wedi dod i'r brig am 17 wythnos o 25 Hydref 2014 a hynny yng Nghaerdydd.
Yr artist Mecsicanaidd Teresa Margolles dderbyniodd y wobr y llynedd ar gyfer Artes Mundi 5.
Ar ôl ennill yn 2006 roedd Eija-Liisa Ahtila wedi medru canolbwyntio ar broject dros dair blynedd Where is Where, 2008:
"Roedd yn gadael i mi gwrdd ag artistiaid eraill o bob cwr o'r byd a gweld gwahanol ddulliau o wneud celf."
Dywedodd Cyfarwyddwr cyswllt Artes Mundi, David Thorp:
"Mae'r wobr yn un fawr yng nghyd-destun y DU. Ei bwriad yw rhoi rhyddid i'r enillydd, ar adeg bwysig yn ei yrfa, i ddatblygu gwaith newydd sylweddol neu'r amser i fyfyrio ar ei waith a'i symud yn ei flaen."
Mehefin 28 yw'r dyddiad cau ar gyfer yr enwebiadau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2012

- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012

- Cyhoeddwyd6 Hydref 2012