Deiseb yn erbyn cau Ysgol John Beddoes
- Cyhoeddwyd

Y bwriad yw bod campws Ysgol John Beddoes yn ailagor fel rhan o Ysgol Uwchradd y Drenewydd
Fe fydd cefnogwyr ysgol uwchradd ym Mhowys sy'n wynebu cael ei chau yn cyflwyno deiseb ddydd Gwener yn erbyn y bwriad.
Mae Ysgol John Beddoes yn Llanandras mewn mesurau arbennig a'r bwriad yw y bydd yn dod o dan reolaeth ysgol arall 30 milltir i ffwrdd.
Dywedodd Cyngor Powys mai'r cynllun arfaethedig yw cau Ysgol John Beddoes yn Llanandras ar ddiwedd 2013 ac yna ailagor y safle fel campws Ysgol Uwchradd y Drenewydd o dan un pennaeth.
Mae'r cyngor yn mynnu bod angen "gweithredu pendant a phellgyrhaeddol" ac fe ddechreuodd ymgynghori ar y cynllun ddechrau mis Mai ac mae'n para tan Fehefin 2.
Ond bydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno yn Neuadd y Sir Powys i Myfanwy Alexander, deiliad y portffolio addysg ar y cyngor, am 9.30am ddydd Gwener.
Dywedodd Hilary ac Ian Marchant ar ran Cyfeillion Ysgol John Beddoes: "Ddegawd yn ôl fe gafodd Ysgol Uwchradd y Drenewydd ei beirniadu mewn arolwg ond bellach mae'r ysgol wedi troi dalen newydd.
"Felly mae Ysgol Uwchradd y Drenewydd yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fo gweledigaeth gan arweinwyr ysgol".
Ychwanegodd y ddau mai'r hyn oedd eu hangen felly oedd uwch reolwyr newydd ar Ysgol John Beddoes.
Dywedodd yr awdurdod fod y Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi awgrymu y dylid cau Ysgol John Beddoes.
Ysgrifennodd Mr Andrews at y cyngor gan ddweud ei fod yn poeni am y cyfleoedd addysgol gwael oedd yn cael eu darparu i bobl ifanc yr ardal.
Wrth i'r ysgol ehangu byddai plant rhwng 11 ac 16 oed yn cael eu haddysgu ar gampws Llanandras.
Cafodd Ysgol John Beddoes ei rhoi o dan fesurau arbennig ym mis Rhagfyr y llynedd ac ym mis Ionawr eleni dywedodd y cyngor y byddai'r ysgol yn cau yn 2014.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2013

- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2013

- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2012
