Seren o Ddenmarc yn arwyddo i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Cornelius wedi cynrychioli ei wlad chwe gwaith
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi arwyddo'r ymosodwr o Ddenmarc, Andreas Cornelius.
Y dyn 20 oed yn 6 throedfedd 4 modfedd o daldra oedd prif sgoriwr uwch gynghrair Denmarc y flwyddyn ddiwethaf, gan sgorio 18 o goliau mewn 32 gêm.
Mae wedi arwyddo cytundeb o bum mlynedd gyda'r Adar Gleision.
Record newydd
Mae'r £7.5m mae Caerdydd wedi ei dalu am Cornelius yn chwalu eu record blaenorol sef £3m am Michael Chopra o Sunderland yn 2010.
Mae Cornelius yn cael ei ystyried yn chwaraewr o safon ac mae eisoes wedi cynrychioli ei wlad.
Sgoriodd ei gôl gyntaf i Ddenmarc mewn gêm gyfartal yn erbyn Moroco ar ddiwrnod olaf mis Ionawr y flwyddyn hon.
Cornelius yw'r cyntaf i ymuno â Chaerdydd ers iddyn nhw godi i Uwchgynghrair Lloegr.
'Cyfle gwych'
Mewn cyfweliad ar wefan Clwb Pêl-droed Caerdydd, dywedodd: "Rydw i wedi cael cyfle gwych i gymryd rhan yn y fenter gyffrous iawn yng Nghaerdydd.
"Rwy'n hapus iawn i fod yma ac i fod yn chwarae i glwb yn yr Uwchgynghrair."