Niwmonia gafodd ei achosi gan y frech goch
- Cyhoeddwyd

Roedd Gareth Colfer-Williams yn 25 oed
Clywodd cwest yn Abertawe fod dyn o'r ddinas wedi marw o niwmonia gafodd ei achosi gan y frech goch.
Cafwyd hyd i gorff Gareth Colfer-Williams, 25 oed, yn ei fflat yn ardal Porth Tennant y ddinas ar Ebrill 18.
Cofnododd y crwner yn Abertawe reithfarn o farwolaeth drwy achosion naturiol.
Ers Tachwedd mae mwy na 1,202 o achosion wedi cael eu cofnodi yn Abertawe a'r Cylch.
Asthma
Clywodd y cwest fod Mr Colfer-Williams yn Ysbyty Treforys a'i fod wedi cael triniaeth am asthma nid y frech goch.
Yn Ebrill, ychydig o ddyddiau wedi iddo adael yr ysbyty, dywedodd ei deulu ei fod wedi cael brech.
Ar y pryd dywedodd ei fam, Angela Colfer, iddo fynd i weld meddyg teulu y diwrnod cyn iddo farw.
Roedd brech ar bob rhan o'i gorff ar wahân i'w freichiau a dywedwyd wrtho y dylai gymryd paracetemol.
Pan fu farw dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod profion labordy wedi cadarnhau'r frech goch ond bod angen mwy o brofion i benderfynu achos y farwolaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2013
