Dewis Gill ar gyfer Ynys Môn
- Cyhoeddwyd

Roedd y dyn busnes 39 oed yn ymgeisydd yn etholiadau'r cyngor.
Nathan Gill yw ymgeisydd UKIP ar gyfer Isetholiad Ynys Môn.
Roedd y dyn busnes 39 oed yn ymgeisydd yn etholiadau'r cyngor.
Yr isetholiad ar Awst 1 fydd yr un cynta' am sedd Cynulliad ers saith mlynedd.
Mae hyn yn sgil ymadawiad Ieuan Wyn Jones sy'n symud i swydd newydd fel arweinydd Parc Gwyddoniaeth Menai.
Ddydd Sul dewisodd Democratiaid Rhyddfrydol Steve Churchman fel eu hymgeisydd.
Mae Plaid Cymru wedi dewis Rhun ap Iorwerth a Llafur Cymru wedi dewis Tal Michael. Ymgeisydd y Ceidwadwyr yw Neil Fairlamb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2013
