Ffair Aeaf: Torri record
- Cyhoeddwyd

Dywedodd cadeirydd y Ffair bod y tywydd da yn ffactor enfawr yn nifer yr ymwelwyr.
Mae'r Ffair Aeaf eleni wedi denu rhagor o ymwelwyr nag erioed o'r blaen.
Meddai'r trefnwyr, fe ymwelodd 14,203 â Maes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddydd Mawrth - record ar gyfer ail ddiwrnod y sioe.
Wedi i filoedd dyrru yno ddydd Llun, cyfanswm ymwelwyr y Ffair eleni oedd 29,336. Mae hynny'n gynnydd o 2,500 o bobl ers 2012.
Fe ddisgrifodd cadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, John Davies hon fel "clamp o flwyddyn" i'r Ffair, gan ddweud bod y tywydd da yn ffactor enfawr yn y nifer ddaeth i'r Maes.
Dywedodd y byddai'r Ffair y flwyddyn nesa'n fwy eto, ac y byddai 70 o'r rhai geisiodd am stondinau eleni, a methu - yn cael eu cynnwys yn 2014.
Ychwanegodd y byddai'r Gymdeithas yn penderfynu yn y gwanwyn, ddylen nhw symud y Ffair i gael ei chynnal ar ddydd Sul a dydd Llun, yn hytrach na dydd Llun a dydd Mawrth. Y nôd yw denu pobl fyddai'n methu ag ymweld â'r Ffair oherwydd gwaith neu ysgol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2013