Cymorth cyfreithiol i ymgyrchwyr
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr yn erbyn cau uned babanod newydd-anedig wedi cael cymorth cyfreithiol ar gyfer adolygiad barnwrol.
Roedd Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi dweud y byddai gwasanaethau'n cael eu symud o Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.
Cyfeiriodd uwchreolwyr y penderfyniad terfynol i'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford.
Mae'r ymgyrchwyr yn herio'r broses gyfeirio.
Cafodd staff wybod y byddai'r gwasanaethau dan sylw yn Ysbyty Llwynhelyg yn dod i ben erbyn mis Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2013

- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2013

- Cyhoeddwyd24 Medi 2013
