Chwilio Afon Tywi am seithfed diwrnod am Cameron Comey
- Cyhoeddwyd

Fe aeth Cameron ar goll tra'n chwarae efo'i frawd ddydd Mawrth
Bydd y chwilio am fachgen 11 oed ddisgynnodd i afon yn Sir Gar yn parhau am y seithfed diwrnod ddydd Llun.
Aeth Cameron Comey ar goll yn Afon Tywi ddydd Mawrth wrth chwarae gyda'i frawd.
Daeth tua 350 o bobl i oleuo canhwyllau o obaith mewn gwylnos i'r bachgen yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos.
Roedd aelodau o deulu Cameron yn yr wylnos ar Bont King Morgan nos Sul.

Daeth 350 o bobl i'r wylnos ddydd Sul

Roedd y chwilio yn parhau ddydd Sul er gwaethaf y tywydd garw
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2015
