'Angen gwneud adroddiad meddygon yn gyhoeddus'
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod yn croesawu'r adroddiad a'r argymhellion sydd ynddo
Dylai bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wneud adroddiad beirniadol ar wasanaeth tu allan i oriau meddygon teulu yn gyhoeddus, yn ôl llefarydd iechyd Plaid Cymru.
Mae'r adroddiad sydd wedi dod i law rhaglen BBC Wales Today yn dweud bod gwasanaeth meddygon teulu tu allan i oriau arferol yn cael ei reoli'n wael, heb ddigon o staff, ac yn methu cyrraedd y nod ar bob lefel.
Mae Elin Jones AC, wedi dweud wrth BBC Cymru y dylai'r bwrdd iechyd fod yn gwbl agored am yr adroddiad.
Mae'r adroddiad yn cynnwys cyfweliadau gyda staff ac fe ddywedodd 84% eu bod, ar adegau, yn teimlo bod y gwasanaeth yn "anniogel".
Dywedodd un meddyg teulu fod problemau yn deillio o fethiannau i recriwtio staff.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, oedd yn gyfrifol am gomisiynnu'r adroddiad, eu bod yn ei groesawu a'i fod yn sylfaen i gynllun gwaith yr oedd yn ei weithredu.
Mae'r gwasanaeth tu allan i oriau arferol yn gweithredu pan fo meddygfeydd teulu wedi cau.
Mae Elin Jones AC, hefyd yn galw ar Y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, i ymyrryd ac i sicrhau bod y bwrdd yn awr yn gweithredu cynllun gweithredol yn seiliedig ar argymhellion yn yr adroddiad.
80%
Fe wnaeth yr adroddiad gan dîm o ymgynghorwyr gymharu'r gwasanaeth yng ngogledd Cymru gyda safonau cydnabyddedig Cymreig, ac fe fethodd y gwasanaeth ym mhob un o'r 10 llinyn mesur oedd yn cael ei ddefnyddio.
Mae'r safonau yn disgwyl gweld 100% o alwadau brys yn derbyn asesiad pendant o fewn 20 munud. Fe lwyddodd y gwasanaeth i gyrraedd y nod mewn 80% o achosion.
Hefyd roedd disgwyl i "achosion brys iawn" dderbyn ymgynghoriad wyneb yn wyneb o fewn awr, ond y llynedd fe lwyddodd y gwasanaeth yn y gogledd i gyrraedd y nod yn hanner yr achosion.
Dywedodd Darren Millar AC, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad: "Mae'n sioc enfawr i weld yr adroddiad. Mae'r gwasanaeth doctoriaid allan o oriau yn methu ar bob lefel ar hyn o bryd. Os na fydd y bwrdd iechyd yn gweithredu mae angen i aelodau'r bwrdd golli eu gwaith."
Argymhellion
Caiff y gwasanaeth ei gynnig o dair canolfan yn ysbytai Wrecsam, Bodelwyddan a Bangor.
Y gwasanaeth yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor yw'r mwyaf effeithiol, yn ôl yr adroddiad.
Mae'r adroddiad yn rhestru nifer o fethiannau difrifol ac yn dweud "nad oes tystiolaeth fod y methiannau hyn wedi eu hadrodd i bwyllgor rheoli gwasanaeth allan o oriau, eu nodi ar y gofrestr risg na'u hadrodd i fwrdd Betsi Cadwaladr."
Mewn datganiad dywedodd y bwrdd iechyd ei fod wedi comisiynu'r astudiaeth a bod y "broses yn dryloyw" gyda staff yn "cael golwg ar yr adroddiad terfynol".
Dywedodd y datganiad: "Rydym yn croesawu'r adroddiad sydd wedi gwneud nifer o argymhellion. Mae'r rhain wedi ffurfio sylfaen i gynllun gwaith sydd yn cael ei weithredu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2015

- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2015

- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2014
