Grwpiau cymunedol i redeg adnoddau?
- Cyhoeddwyd

Grŵp cymunedol sy'n rhedeg pwll nofio Harlech ers 2010.
Fe allai grwpiau cymunedol gael grymoedd i redeg adnoddau neu wasanaethau lleol sydd ddim yn cael eu defnyddio, neu sy'n debygol o gael eu gwerthu.
Fe fyddai'r grwpiau'n gallu cofrestru'r adnoddau, gan gynnwys canolfannau hamdden, tafarndai, meysydd chwarae, llyfrgelloedd ac eglwysi fel 'asedau o werth cymunedol'.
Yna fe fyddai modd iddyn nhw gael cyfle i ddatblygu cynllun busnes ar gyfer yr adnodd cyn iddo gael ei werthu.
Mae cyfnod ymgynghorol yn cael ei lansio er mwyn penderfynu a ddylid cyflwyno grymoedd o'r fath i grwpiau cymunedol.
Daw hyn yn dilyn ymgynghoriad yn Lloegr ddaeth i'r casgliad fod hawl gyfreithiol gan grwpiau cymunedol i wneud cais i redeg adnoddau o'r fath. Cafodd argymhellion yr ymgyngoriad hwnnw eu gweithredu.
Dywedodd Gweinidog Cymunedau Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths: "Mae'r hinsawdd economaidd bresennol wedi rhoi pwysau mawr ar adnoddau o'r fath.
"Pan fod adeiladau a gwasanaethau sydd yn gweithio'n dda ac yn bwysig i'r cymunedau mewn peryg o gau, rydym am i gymunedau gymryd perchnogaeth ohonyn nhw.
'Gwasanaethau craidd'
"Bydd hyn nid yn unig yn sicrhau fod y gwasanaethau craidd hyn yn parhau, ond hefyd yn creu swyddi a chyfleoedd sgiliau i bobl leol."
Bydd Ms Griffiths yn ymweld â Monwel ddydd Iau, menter gymunedol lwyddianus yng Nglyn Ebwy, ac sydd yn cael ei rhedeg gan y gymuned ers 2013 ar ôl i gyngor Blaenau Gwent drosglwyddo'r awenau iddyn nhw.
Ar hyn o bryd yng Nghymru mae llawer o wasanaethau ag adnoddau yn cael eu trosglwyddo i ymddiriedolaethau neu gyrff nid-er-elw, a hynny ar benderfyniad y cynghorau sir.
Cafodd canolfan hamdden ei ail-agor yn ddiweddar yn Wrecsam gan wirfoddolwyr oedd wedi achub yr adeilad rhag cael ei ddymchwel.
Yn Harlech y llynedd fe gafodd grŵp cymunedol £135,000 gan Gyngor Gwynedd i barhau gyda'r gwaith o redeg pwll nofio yr oedd y grŵp wedi derbyn perchnogaeth ohono gan y cyngor yn 2010.

Cafodd Canolfan Plas Madoc yn Wrecsam ei hachub gan drigolion lleol
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2014
