Ailagor adeilad y Llyfrgell Genedlaethol wedi tân
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth tân achosi gwerth £5m o ddifrod i do'r adeilad ym mis Ebrill 2013
Mae un o adeiladau'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn cael ei ailagor ddydd Llun, dros ddwy flynedd wedi iddo gael ei ddifrodi gan dân.
Fe wnaeth y tân yn nhrydydd adeilad y llyfrgell ddinistrio archifau ac achosi gwerth £5m o ddifrod i do'r adeilad ym mis Ebrill 2013.
Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, fydd yn ailagor yr adeilad.
Fe wnaeth ymchwiliad ddarganfod bod y tân wedi cynnau mewn camgymeriad.

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2013
