Cwis Ateb y Galw
- Cyhoeddwyd

Pen-Blwydd Hapus Ateb y Galw! Mae 'na flwyddyn ers i Cymru Fyw gyhoeddi'r holiadur wythnosol busneslyd am y tro cyntaf. Tudur Owen , dolen allanoloedd y dyn dewr cyntaf i fentro cael ei holi'n dwll. I nodi'r garreg filltir hon dyma gyfle i edrych yn ôl ar rai o'r atebion mwyaf syfrdanol, diddorol ac annisgwyl!
Pwy sy'n cythruddo pawb trwy roi cryno ddisgiau yn ôl yn y casyn anghywir?
Pwy, pan yn brin o arian, dalodd fíl rhywun arall mewn bwyty gan ei fod yn gwybod fod y cyfanswm yn llai na'r hyn y dylai fod wedi ei dalu?
Pwy achosodd embaras trwy ofyn i Bryn Terfel "Hei, fedri di ganu washi?"

"Fedri di ganu washi?"

Pwy sy'n hoff o'i drôns Superman?
