Ceredigion yn torri record tywydd
- Cyhoeddwyd

Ceredigion oedd yr ardal gynhesaf trwy Brydain ddydd Sul, gan hefyd dorri'r record am y tymheredd uchaf i'w gofnodi erioed ym Mis Tachwedd ym Mhrydain.
Fe gododd y tymheredd i 22.3C (72.1F) yn Nhrawsgoed ger Aberystwyth am 14:00.
Yng Nghymru yr oedd y tymheredd uchaf am fis Tachwedd cyn hyn hefyd, gyda thymheredd o 21.7C (71.1F) yn cael ei gofnodi ym Mhrestatyn ym 1946.
A gyda'r tywydd mwyn yn parhau, mae 'na ddyfalu y gallai'r record gael ei thorri eto ddydd Llun.
Serch hynny, mae yna rybudd melyn am niwl mewn mannau yng Nghymru rhwng 21:00 nos Sul a 12:00 dydd Llun.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio teithwyr i gymryd gofal ar y ffyrdd oherwydd y posiblrwydd o niwl trwchus yn yr ardaloedd canlynol: Sir y Fflint, Wrecsam, Sir Fynwy, Casnewydd, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Torfaen, Bro Morgannwg a Sir Ddinbych.