Tashwedd: Mae e dan eich trwynau!
- Cyhoeddwyd
Mae'n fis Tachwedd a bydd ambell un yn ymateb i'r her elusennol flynyddol i dyfu mwstas er mwyn codi arian at achosion da.
Ond ydy hyn yn newyddion da i bawb?
Fel rhan o'n dyletswydd i gynnig gwasanaeth i'r cyhoedd, mae Cymru Fyw am ddangos i chi sut byddai ambell i wyneb adnabyddus yn edrych gyda mwstas.
**RHYBUDD** Mae'r erthygl yn cynnwys delweddau allai beri gofid i'r mwyafrif!

Yn siwtio un, ond nid y llall. Gewch chi benderfynu...

Delwedd newydd i Titus Monk ar gyfer Gŵyl Rhif 6 blwyddyn nesaf?

Mae Dai'n edrych yn dipyn o ŵr bonheddig chwarae teg

Mae'n edrych yn debyg fod Dylan Ebenezer yn chwilio am feic 'penny farthing'

Mae Ifan Evans yn edrych yn hynod cŵl gydag un

Yn gweddu Gerallt i'r dim

Mae Mari Lovgreen yn falch iawn o'i gwallt coch llachar. Mwya'i gyd... gorau i gyd!

Arwr ein barbwr bach ni?

Mae'n ychwanegu 'gravitas' i'r darlledwr Huw Edwards

A 'dyw'r mwstas ffug ddim yn gweddu Ian Rush o gwbl... daliwch 'mlaen funud...
Os hoffech chi weld sut olwg fyddai ar un o enwogion Cymru gyda 'tash' ar gyfer Tashwedd, cysylltwch gyda ni, a wnawn ni geisio greu llun. (Mae'r gwasanaeth hyn yn gynwysiedig yn eich ffi drwydded)
Twitter: @BBCCymruFyw
e-bost: cymrufyw@bbc.co.uk