Storm Barney: Dros 7,000 heb bŵer
- Cyhoeddwyd

Gwynt cryf ar draeth ym Mhenfro yn gynharach
Mae gwyntoedd wedi cyrraedd 76 milltir yr awr yn y gogledd wrth i Storm Barney agosau, ac mae 7,000 o gartrefi heb drydan nos Fawrth.
Daw'r storm wrth i rybudd melyn i bobl fod yn "wyliadwrus" am law trwm a gwyntoedd cryfion gael ei gyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd.

Gwyntoedd o 73 milltir yr awr wedi eu recordio ar fesurydd gwynt gorsaf bad achub Porthcawl.
Dim trydan
Mae bron i 1,500 o gwsmeriaid cwmni Western Power Distribution heb drydan yng Nghaerfyrddin, Llanelli, Sanclêr, Tyddewi, Aberdaugleddau, Hirwaun, Beddau, Glyn Ebwy, Rhymni a Chas-gwent.
Dywed y cwmni fod gweithwyr ychwanegol wedi eu galw i weithio drwy nos Fawrth a'r gobaith yw y bydd y cyflenwad trydan yn dychwelyd i gwsmeriaid yn ddiweddarach.
Yn ôl cwmni Scottish Power mae 6,000 o gwsmeriaid wedi colli cyflenwad trydan yn ardaloedd Llangollen, Bala, Dolgellau, Tywyn, Llanymynech, Meifod a Chaernarfon hefyd.

Gwyntoedd nerthol ar y prom yn Aberystwyth
Ar y ffyrdd
Mae'r A528 rhwng Marchwiel a Wrecsam wedi ei chau'n rhannol oherwydd fod coeden wedi disgyn.
Yng Ngheredigion mae ffordd Penparcau, yr A487, wedi ei hailagor ar ôl i goeden ddisgyn rhwng ffordd yr A4120 (cylchfan Penparcau) a Phen-Yr-Angor.
Mae adroddiadau hefyd fod yr A44 ar gau o achos coeden yn y ffordd rhwng cylchfan Lovesgrove, Aberystwyth, a'r A4120 Ponterwyd.
Ac mae ffordd yr A482 i'r dwyrain bellach wedi ailagor ar ôl cau'n gynharach wedi i goeden ddisgyn rhwng Llanbedr Pont Steffan a Phumsaint.
Mae ffordd y B4393 ar gau i'r ddau gyfeiriad ym Mhowys o achos fod coeden ar y ffordd rhwng yr A495 (Llansantffraid-ym-mechain) a'r A483 ger cylchfan Four Crosses.
Nid oes disgwyl y bydd y ffordd yn ail-agor tan fore dydd Mercher.
Hefyd ym Mhowys mae ffordd yr A489 ar gau i'r ddau gyfeiriad - eto am fod coeden wedi disgyn - rhwng Ffordd Common, Ceri, a Sarn.
Dywed Cyngor Penfro fod cebl wedi ei ddymchwel ar ffordd y B4341 ger Aber Llydan ac roedd coeden wedi disgyn gan gau ffordd y B4330 yn rhanol ger Crownhill.
Dywedodd llefarydd ar ran atyniad 'Winter Wonderland' Caerdydd y byddai'r atyniad yn cau ddydd Mawrth fel "mesur rhag ofn".

Coeden wedi disgyn yn y gwynt yn Abertridwr
Dywed cwmni trenau Arriva fod oedi rhwng Casnewydd ac Amwythig, Amwythig a Birmingham, a rhwng Amwythig a Wrecsam oherwydd gwyntoedd cryfion a choeden sydd wedi disgyn ar y cledrau.
Mae oedi'n debygol hefyd i drenau rhwng Llandudno a Chaergybi o achos gwyntoedd cryfion, oherwydd bod trenau'n gorfod teithio'n araf ar ran o'r daith rhwng Manceinion a Chaerdydd gan fod problem gyda'r llinell drydan uwchlaw'r traciau rhwng Wilmslow a Chelford.
Mae disgwyl i'r storm ddod a gwyntoedd cryfion i'r rhan fwyaf o Gymru, gyda gwynt o 76 milltir yr awr yn cael ei fesur yn Aberdaron, Gwynedd, ddydd Mawrth.
Fe all 6cm (dwy fodfedd) o law ddisgyn, gyda rhybudd mewn grym o 10:00 ymlaen ar gyfer Conwy, Sir Ddinbych a Gwynedd.
Gallai hyn arwain at lifogydd a phroblemau teithio mewn manau medd y Swyddfa Dywydd.
Rhybudd melyn
Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym ar hyd Cymru o 16:00, gyda disgwyl gwynt o 70 milltir yr awr i ffwrdd o'r arfordir a 80 milltir yr awr ar arfordiroedd.
Roedd disgwyl i'r gwynt symud o gyfeiriad y gorllewin i weddill y wlad yn ystod y nos.
Mae rhybudd llifogydd mewn grym ar hyd dyffryn Afon Dyfrdwy rhwng Llangollen a Thref Alun.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio pobl am lifogydd a gwyntoedd cryfion