Lluniau'r Urdd: Dydd Mercher
- Cyhoeddwyd

Mike Peters, prif leisydd The Alarm. Dywedodd Mike wrth Cymru Fyw: “Mae’n grêt bod yma a chael gweld yr ŵyl ‘ma sydd mor fywiog. Mae’r plant sydd yma’n gwneud fi feddwl bod dyfodol llewyrchus i Gymru a dwi mor falch fod y Steddfod yn fy ardal i. Mae pobl yn dueddol o anghofio am y ogledd ddwyrain Cymru felly mae’n wych i weld yr ardal yn cael sylw.”

Blwyddyn 5/6 Ysgol Trewen, Castell Newydd Emlyn yn ymarfer eu stepiau

Kia Owen o’r Rhyl, Miss Galaxy Cymru. Enillodd y teitl fis Chwefror, ac mae Kia yn mynd allan i Orlando fis Awst i gynrychioli Cymru

Sean o Lanbedr Pont Steffan yn cael tro efo’r bwa a saeth

Dau frawd, sef Einion (3) a Llion (2) o Landdoged ger Llanrwst yn mwynhau eistedd ar hen dractor Ferguson

Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, yn cael ei gyfweld ar rhaglen Taro'r Post

Ydy Esyllt, 3 oed o Gaerdydd, wedi sylwi fod rhywun yn llygadu ei pizza?

Ma'r Eisteddfod yn dipyn o ffair!

Merched blwyddyn 11 Ysgol Maes Garmon yn mwynhau mewn cadair enfawr

Arwel 'Gildas' yn perfformio ar y Maes heddiw

Ela 3 oed (ar y beic) a Magi 6 oed, o Lanelidan ger Rhuthun, yn trio beicio er mwyn creu bybls

Y Syr Wynff a Plwmsan newydd (Llŷr Evans ac Iwan Charles) Bydd sioe theatr newydd yn teithio eleni

Enillydd y fedal ddrama, Lois Llywelyn Williams

Wal ddringo pentre’ Mistar Urdd

Mae Arthur o Bontllyfni wedi blino wedi diwrnod hir o Eisteddfota. Nos da!