Lluniau: Gŵyl Rhif 6
- Cyhoeddwyd
Er bod y glaw mawr wedi gwneud y penawdau yng Ngŵyl Rhif 6 eleni, heidiodd miloedd o bobl i'r ŵyl gerddoriaeth boblogaidd ym Mhortmeirion dros y penwythnos.
Dyma gasgliad o luniau'r ffotograffydd Iolo Penri, a oedd yno i weld y cyfan ar ran Cymru Fyw:


Cynulleidfa liwgar Gŵyl Rhif 6 ar y dydd Sadwrn

Roedd y bytholwyrdd Meic Stevens ymysg yr artistiaid a oedd yn perfformio yno eleni

Rhai o atyniadau creadigol yr ŵyl - slefrod môr mawr y nos

Geraint Jarman yn mwynhau ar brif lwyfan yr ŵyl

Penwisg gwahanol iawn gan un o'r ymwelwyr...

Bastille, un o fandiau mwyaf poblogaidd Prydain, yn chwarae ar y brif lwyfan

Selffis a 'wellies' - dau beth angenrheidiol eleni

Mae hi wedi bod yn haf prysur i Alys Williams a Band Pres Llareggub. Roedden nhw wrthi eto dros y penwythnos

Cast gwreiddiol Scooby-Doo neu un o'r criwiau wnaeth droi fyny mewn gwisg ffansi yw'r rhain?

Mae 'na ddigwyddiadau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau godidog, gan gynnwys y goedwig...

...ac wrth y traeth

Roedd 'na gynulleidfa dda i weld dychweliad y band Topper

Allwch chi weld wyneb un o ffigyrau mwyaf dadleuol America yn cuddio yn y dorf?

Ricky Wilson, prif leisydd Kaiser Chiefs, yn perfformio

Roedd y Super Furry Animals, a'u gwisgoedd enwog, 'run mor boblogaidd ag erioed

Bu'r glaw mawr a'r mwd yn destun trafod hyd yn oed ar ôl i'r ŵyl ddod i ben. Dyma'r olygfa yn y maes parcio
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2016
