Cymro ddim i gael ei estraddodi i wynebu carchar
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Sir y Fflint oedd yn wynebu cael ei estraddodi i Roeg er mwyn treulio amser dan glo wedi ennill ei achos yn y llys.
Roedd Paul Wright o'r Wyddgrug wedi ei gyhuddo o achosi difrod troseddol ac o ddwyn car a'i yrru yn wyllt pan oedd ar ei wyliau yn y wlad yn 2003.
Ond gwadu hynny wnaeth Mr Wright gan ddweud mai ei ffrind wnaeth falu'r car gan daro sgwter oedd wedi parcio ar y ffordd, a'i adael o i esbonio'r difrod.
Derbyniodd Mr Wright warant Ewropeaidd i'w arestio ac anfonwyd llythyr ato yn dweud y dylai wynebu achos ym mis Hydref 2006 yng ngwlad Groeg.
Ond roedd erbyn hynny wedi symud tŷ felly chafodd o ddim gwybod am yr achos.
Beirniadu'r oedi
Yn ei absenoldeb cafodd ei ddedfrydu i 15 mis yn y carchar neu ddirwy o 3,000 Euro.
Ym mis Mawrth cafodd ei arestio gan Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd y barnwr Mike Snow nad oedd wedi ei fodloni fod y tad i ddau yn fwriadol wedi penderfynu peidio troi fyny ar gyfer yr achos yn 2006.
Roedd hefyd yn feirniadol o'r oedi rhwng y ddamwain a'r adeg pan wnaeth Heddlu Gogledd Cymru ymweld ag o yn ei gartref fwy na degawd yn ddiweddarach.