Blas ar godi arian
- Cyhoeddwyd

Beth sydd ar y fwydlen?
Wfft i Mary Berry a'i thebyg. Er mor bleserus yw gorweddian ar y soffa yn glafoerio wrth wylio'r Bake Off, mae 'na hefyd rywbeth boddhaol dros ben am lowcio pizza crasboeth a chawslyd yn syth o'r popty.
Ar gyfer diwrnod Plant Mewn Angen eleni, mae Cymru Fyw wedi gwahodd cogyddion ifanc i'r gegin i baratoi prydau syml ond blasus o'u dewis nhw.
Yr unig reol? Dim popty ping!
Mentro i'r gegin
Mae'r fideos isod yn cael eu cyflwyno mewn gwhanol ieithoedd gan gynnwys Cymraeg, Roma a Iaith Arwyddo. Wrthi'n cymysgu, berwi a phobi ar eich cyfer mae:
Criw Canolfan Ieuenctid Maerdy yn paratoi pizzas pitw
Aelodau Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydol Romani yn coginio bisgedi ar gyfer y Nadolig
Pobl ifanc Fferm Gymunedol Abertawe yn gwneud cawl
Jay o Abertawe yn defnyddio iaith arwyddo i'ch tywys drwy ei hoff rysáit
Ieuenctid Fernhill yn pobi sglodion sbeisi
Felly, ymlaen â'r ffedogau a thorchwch eich llewys. Ychwanegwch dalp o frwdfrydedd a llwyaid o hiwmor - a chymysgu'r cyfan i greu crochan llawn hwyl.
Pizzas pitw
Dyma'r rysáit cyntaf ar eich cyfer - pizzas pitw gan Ellen, Lucy a Christian o Ganolfon Maerdy, dolen allanol.
Mae'r ganolfan ym mhentre' Tairgwaith ger Rhydaman wedi derbyn arian gan Plant Mewn Angen i gynnal sesiynau hybu iechyd ar gyfer pobl ifanc lleol. Pob nos Iau mae 'na gyfle i gadw'n heini, i dderbyn cyngor am fwyta'n iach - ac i ymarfer sgiliau coginio.
Dyma'r unig glwb ieuenctid yn yr ardal ac mae rhai bobl ifanc yn cerdded 20 munud i gyrraedd yna.
Criw Canolfan Maerdy yn coginio pizzas ar gyfer Plant Mewn Angen
Bisgedi Nadolig
Mae Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydol Romani, dolen allanol yn cynnal gweithdai ar gyfer plant o dras Sipsi a Theithwyr Gwyddelig. Mae Miroslav, Lara, Slavo a Jessica yn byw yn ardal Casnewydd ond yn hanu o Slofacia. Maen nhw'n siarad Romanës neu Rromani-chib, sef iaith pobl Romani ledled y byd.
Yma mae nhw'n paratoi rysáit traddodiadol, sef bisgedi ar gyfer y Nadolig.
Pobi bisgedi traddodiadol o Slofacia
Cawl cennin
Rysáit traddodiadol sydd gan gogyddion ifanc Fferm Gymunedol Abertawe, dolen allanol hefyd, sef cawl.
Yn ogystal â thorri, cymysgu a choginio'r llysiau a pherlysiau, nhw hefyd sydd yn gyfrifol am blannu a thyfu'r cynhwysion i gyd. Mae'r gweithgareddau ar y fferm yn rhoi cyfle i bobl ifanc fagu hyder a meithrin sgiliau newydd.
Y llysiau'n barod ar gyfer cawl
Un sydd wedi elwa'n fawr yw Tarri, 13 oed, a symudodd o Lundain i Abertawe bedair mlynedd yn ôl. Mae gan Tarri Syndrom Asperger sy'n gwneud cymdeithasu'n anodd. Ond erbyn heddiw, mae'n siarad Cymraeg yn hyderus ac wedi gwneud llu o ffrindiau newydd. Ymysg rheiny mae Danny, Jordon-Leigh, Chelsea, Luana, Tyler, Keira ac April sy'n helpu Tarri yn y gegin.
Wrap caws a ham
Mae Jay yn aelod poblogaidd o glwb ieuenctid Talking Hands sy'n cynnal sesiynau yng Nghanolfan Byddar Abertawe., dolen allanol Mae'n giamster yn y gegin - ond ei freuddwyd yw bod yn gerddor. Mae Jay yn defnyddio iaith arwyddo i esbonio sut i baratoi wrap blasus.
Jay yn brysur yn y gegin
Sglodion sbeisi
Sglodion sbeisi sydd ar fwydlen Shakira a Chloe yng nghegin Clwb Ieuenctid Fernhill. Mae'r ganolfan, ger Aberpennar yng Nghwm Cynon, yn cynnig lle diogel a chlud i bobl ifanc gymdeithasu a mwynhau gyda ffrindiau yn ogystal â dysgu sgiliau newydd a magu hyder. Mae'r ddwy yn gogyddion brwd ac yn mwynhau profi ryseitiau newydd.
Sglodion sbeisi sydd gan Glwb Ieuenctid Fernhill
Mwynhewch!