Cefnogwyr pêl-droed o Gymru yn gyrru i Georgia
- Cyhoeddwyd

Fis hydref diwethaf fe drefnodd yr elusen Gôl!, i ddau blentyn o Kutaisi ymweld â Chaerdydd ar gyfer y gêm bêl-droed rhwng y ddwy wlad
Mae rhai o gefnogwyr pêl-droed Cymru wedi penderfynu gyrru i Georgia ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd y tîm cenedlaethol, mewn ymgais i helpu plant anghenus y wlad.
Bydd yr elusen Gôl!, dolen allanol yn codi arian ar y ffordd er mwyn helpu plant sydd mewn angen mewn gwahanol wledydd ar draws Ewrop, yn ogystal â Georgia.
Mae Gôl! yn helpu elusennau plant bob tro y mae'r tîm cenedlaethol yn chwarae oddi cartref.
Fe fydd y cefnogwyr, sy'n dod o Gaerffili, Caerdydd a'r Hengoed, yn cychwyn ar y daith 10 niwrnod i ddinas Kutaisi - sydd wedi ei gefeillio â Chasnewydd - yn cludo cit pêl-droed, llyfrau, dillad a rhoddion eraill, ac os gyrhaeddan nhw'n ddiogel, byddan nhw'n cyfrannu eu ceir at achosion da yn Georgia.
Yn ystod yr ymweliad rhwng 1-4 Hydref bydd Gôl! yn ymweld â chanolfan wirfoddol i bobol ifanc awtistig gyda chit arbennig ASD. Bydd y cefnogwyr yn ymweld â nifer o achosion plant eraill tra eu bod yn Kutaisi ynghyd â chartref i blant yn y brifddinas Tbilisi cyn y gêm fawr.
Mae elusen Gôl! wedi meithrin perthynas agos gyda Georgia, gan fod criw o 27 o gefnogwyr Cymru wedi gyrru yno hefyd yn 2009 ar eu ffordd i Azerbaijan i wylio Cymru.
'Perthynas wych'
Fis hydref diwethaf fe drefnodd yr elusen Gôl!, i ddau blentyn o Kutaisi ymweld â Chaerdydd ar gyfer y gêm bêl-droed rhwng y ddwy wlad.
Dywedodd Nicoloz Rukhadze oedd yn gwarchod y plant, "Mae'n wych bod y berthynas yma gyda ni. Ry'n ni'n wlad fach hefyd ac mae'n dda cynnal y berthynas a'r cyfeillgarwch yma gyda chenedl debyg i ni."
Dywedodd Tim Hartley ar ran elusen Gôl!: "Rhaid diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y daith anhygoel yma yn enwedig Gweirydd a phawb ym Macsen sydd wedi noddi'r ceir.
"Rydym yn gwneud y pethau bychain er mwyn ceisio helpu pobol lai ffodus na ni a hefyd i godi proffil cefnogwyr pêl-droed ar draws Ewrop. Mae'n ffordd bell i fynd ond byddwn yn falch i gael cwrdd â phobol ifanc Kutaisi unwaith eto."